Mae’r tudalen hwn yn rhoi dolenni sy’n cysylltu â thestun llawn holl Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y cawson nhw eu deddfu’n wreiddiol. Os nad yw blwyddyn wedi’i dangos yn y rhestrau isod, mae hynny’n golygu na chafodd deddfwriaeth gymwys ei gwneud yn y flwyddyn honno.
I gyd-fynd â phob un o Fesurau Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n deillio o Fesurau arfaethedig a gyflwynwyd yn y Cynulliad Cenedlaethol, fe fydd yna Nodiadau Esboniadol. Llywodraeth Cynulliad Cymru fydd yn cynhyrchu testun y Nodiadau Esboniadol. Diben y Nodiadau Esboniadol yw sicrhau y gall darllenwyr sydd heb gymwysterau cyfreithiol a gwybodaeth arbenigol o’r materion o dan sylw ddeall y Mesur. Y bwriad yw caniatáu i’r darllenydd ddeall nod y Mesur a gosod effaith y Mesur yn ei gyd-destun.
Y nod yw cyhoeddi’r Nodiadau Esboniadol ar y Rhyngrwyd yr un pryd â’r Mesur ond mae’n bosibl na fydd hynny’n bosibl bob amser ac y cân nhw eu cyhoeddi rai dyddiau ar ôl i’r Mesur gael ei gyhoeddi ar y wefan hon.
Y nod yw cyhoeddi’r dogfennau hyn ar y wefan hon yr un pryd ag y cân nhw eu cyhoeddi mewn print.