Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.
Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.
Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.
Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 8) (Cymru) 2006, ISBN 0110912683. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.
I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 8) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud
31 Ionawr 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 216(4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cymhwyso a dehongli 1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 8) (Cymru) 2006.
2.
Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru.
3.
Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.
Diwrnodau penodedig 4.
Y diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym yw 1 Chwefror 2006.
5.
Y diwrnod penodedig i adran 175 ddod i rym yw 1 Medi 2006.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2].
Diwygiadau pellach yn ymwneud â threfniadau derbyn
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod
Diddymiadau
Atodlen 4, paragraffau 3(6), 5,6,7,12(2) a (6), 13,14
Atodlen 22, Rhan 3, diddymu—
Diddymiadau
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1), yn adran 84(6), y diffiniad o "the relevant standard number", adran 86(6) adran 93, yn adran 143 y cofnod yn ymwneud â'r nifer safonol perthnasol, Atodlen 23
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Chwefror 2006 y darpariaethau hynny o Ddeddf Addysg 2002 a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 a'r Atodlenni iddi.
Yn achos darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn ac sy'n diwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, mae'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y darpariaethau hynny i'w darllen, o ran Cymru, fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru — gweler adran 211.
Caiff y darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yr effaith a ganlyn—
Mae adran 47 yn diwygio Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ("Deddf 1998") o ran trefniadau derbyn i ysgolion a gynhelir. Nid yw'n ofynnol bellach i ysgolion fod â niferoedd safonol (sy'n ymwneud â nifer y disgyblion sydd i'w derbyn mewn blwyddyn ysgol). Wrth benderfynu trefniadau derbyn ar gyfer ysgol, bydd yn ofynnol i awdurdodau derbyn osod nifer derbyn. Bydd Rheoliadau a chanllawiau yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo'r nifer hwnnw. Hyd nes bydd yr awdurdod derbyn wedi derbyn y nifer hwnnw o ddisgyblion, mae'r ddyletswydd i gydymffurfio â dewis rhiant yn gymwys. Mae adran 47 hefyd yn diwygio adran 86 o Ddeddf 1998 i ganiatáu ar gyfer niferoedd derbyn ar wahân i leoedd dydd a lleoedd byrddio pan fo ysgolion yn darparu llety byrddio.
Mae adran 48 yn diwygio Deddf 1998 i ganiatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i AALlau gyd-drefnu trefniadau derbyn i'r ysgol.
Mae adran 51 a'r darpariaethau a gychwynir yn Atodlen 4 yn gwneud diwygiadau pellach i Ddeddf 1998 o ran trefniadau derbyn i'r ysgol. Mae'r rhain yn cynnwys rhoi'r hawl i gyrff llywodraethu ysgolion cymuned ac ysgolion gwirfoddol gael ymgynghori â hwy ynglŷn â threfniadau derbyn y mae awdurdodau derbyn ysgolion eraill yn eu hardaloedd yn bwriadu eu gwneud.
Mae adran 175 yn gosod dyletswydd ar AALlau a chyrff lywodraethu ysgolion a gynhelir a sefydliadau Addysg Bellach, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud trefniadau mewn perthynas â lles plant. Yn ogystal, rhaid iddynt roi ystyriaeth i unrhyw ganllaw a gyhoeddir gan y Cynulliad Cenedlaethol wrth benderfynu pa trefniadau y mae'n rhaid iddynt eu gwneud er mwyn cydymffurfio â'u dyletswyddau.
NODYN AM ORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym o ran Cymru drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) ac (8)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 14, paragraffau 1 i 7
1 Medi 2004
2004/1728 (Cy.172)
Atodlen 16, paragraffau 1 i 3
1 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
Paragraffau 4 i 9
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 17, paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 8
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5 a 7,
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Paragraff 8 (yn rhannol),
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 13 i 15,
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 2, 3, 6, 8 (yn llawn), 9 i 12 ac 16 i 18
1 Medi 2003
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 19
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Atodlen 20
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Atodlen 21 (yn rhannol)
1 Hydref 2002
2002/2439
(yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
1 Awst 2003
2003/1667
(yn rhannol)
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)
4 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
1 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
9 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol) (Cy.95)
31 Mawrth 2004
2004/912
(yn rhannol)
1 Awst 2004
2004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol)
1 Medi 2004
2004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol)
31 Mai 2005
2005/1395 (Cy.109)
(yn rhannol)
31 Hydref 2005
2005/2910 (Cy.207)
Atodlen 22 (yn rhannol)
1 Hydref 2002
2002/2439
(yn rhannol)
9 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
1 Awst 2003
2003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol) 2003/1667
1 Medi 2003
2002/3185 (Cy.301), 2003/1718 (Cy.185) a
(yn rhannol)
4 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
1 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
9 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol) (Cy.95)
31 Mawrth 2004
2004/912
(yn rhannol) (Cy.95)
1 Awst 2004
2004/912
(yn rhannol)
1 Medi 2004
2004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol) (Cy.109)
31 Mai 2005
2005/1395
(yn rhannol)
31 Hydref 2005
2005/2910 (Cy.207)
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym o ran Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2002/2002 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2018), O.S. 2002/2439 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/606 (wedi'i ddirymu) a 2003/2992), O.S. 2002/2952, O.S. 2003/124, O.S. 2003/1115, O.S. 2003/1667, O.S. 2003/2071 ac O.S. 2004/1318.