Page 1 of 1
Offerynnau Statudol
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
23 Ionawr 2007
Yn dod i rym
25 Ionawr 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 38, 39 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 25 Ionawr 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986(2) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) yn lle'r diffiniad o “corporate optician” rhodder—
““corporate optician” means a body corporate registered in the register of bodies corporate maintained under section 9 of the Opticians Act 1989(3), which is carrying on business as an optometrist;” a
(b) yn lle'r diffiniad o “optician” rhodder—
““optician” means a person registered in the register of optometrists maintained under section 7 (register of opticians) of the Opticians Act 1989 or a corporate optician;”.
(3) Yn rheoliad 9C(1) (achosion pan fo'n rhaid diswyddo ymarferydd), ar ôl is-baragraff (e), ychwaneger—
“(f) in the case of an optician, is the subject of a direction made by the Fitness to Practise Committee of the General Optical Council other than in a health case to erase his or her name from the appropriate register or suspend his or her registration under section 13F(3)(a) or (b), (7)(a) or (b) or (13)(a) or (b) (powers of the Fitness to Practise Committee) of the Opticians Act 1989.
(1A) In paragraph (1), “health case” has the meaning given to it in section 13G(6) of the Opticians Act 1989.”.
(4) Yn rheoliad 10(1) (y Datganiad)—
(a) ar ôl “as to” mewnosoder—
“—”; a
(b) ar y diwedd ychwaneger—
“and
the allowances to be paid in respect of continuing education and training by ophthalmic medical practitioners and opticians other than corporate opticians.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
23 Ionawr 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”) er mwyn gwneud mân newidiadau canlyniadol yn sgil diwygio Deddf Optegwyr 1989 (“y Ddeddf”) gan Orchymyn Deddf Optegwyr 1989 (Diwygio) 2005 (“y Gorchymyn”).
Mae'r Rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau 1986 i ddarparu y caiff y Cynulliad wneud darpariaeth mewn dyfarniad ynghylch y lwfansau sydd i'w talu mewn cysylltiad ag addysg a hyfforddiant parhaus i ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr nad ydynt yn optegwyr corfforaethol.